polisi moesegol


Amcanion

Ein hamcanion yw  

creu cynnyrch fforddiadwy, cynhwysol a chynaliadwy;

creu cynnyrch hirhoedlog, sy’n garedig i’r amgylchedd;

defnyddio gwastraff, a deunydd wedi ei ailgylchu neu ailgylchadwy lle bynnag a fo modd;

ac i’n cynnyrch i gyd gael ei gynhyrchu mewn ffatrïoedd efo undebau neu sydd wedi eu modelu ar batrwm o gefnogi eu gweithwyr.


pecynnu

Gellir ail-ddefnyddio neu ailgylchu ein holl ddeunydd pecynnu, ac mae'r cwbl wedi ei wneud o gardfwrdd neu bolyethylen dwysedd isel. Gall y ddau gael eu hailgylchu ym miniau ailgylchu arferol y cyngor. Bydd deunydd pecynnu sy’n llenwi gwagle fel arfer yn gardfwrdd ailgylchadwy, neu o bosib yn swigod lapio sy’n cael ei ailddefnyddio ar ôl i ni eu derbyn mewn pecyn ein hunain. Rydym yn annog ein cwsmeriaid i ail-ddefnyddio’r deunydd hwn lle bo modd.