Canslo

Gallwch ganslo'ch archeb heb gosb o fewn 24 awr i gadarnhau'ch archeb drwy e-bostio helo@criwcompostio.co.uk

 

Dychwelyd eitem

Mae ein polisi'n para 30 diwrnod. Ni allwn gynnig ad-daliad na chyfnewid eitem i chi ar ôl 30 diwrnod wedi'r pryniant.

I fod yn gymwys i gael eich eitem yn ôl, rhaid i'ch eitem fod heb ei defnyddio ac yn yr un cyflwr ag yr oedd pan wnaethoch ei dderbyn. Rhaid iddo hefyd fod yn y pecynnu gwreiddiol.

Mae sawl math o nwyddau wedi'u heithrio rhag cael eu dychwelyd. Ni ellir dychwelyd nwyddau darfodus neu fregus fel cynhyrchion compost neu zinau.

Yn ychwanegol, ni ellir dychwelyd:

  • Cardiau rhodd
  • Cynhyrchion meddalwedd y gellir eu lawr lwytho
  • Rhai eitemau iechyd a gofal personol
  • Eitemau heb ffurflen ddychwelyd. I gwblhau eich ffurflen ddychwelyd, mae angen derbynneb neu brawf o bryniant arnom.
  • Eitemau sydd heb eu dychwelyd i ni. Peidiwch ag anfon eich eitem yn ôl at y gwneuthurwr.
  • Mae rhai sefyllfaoedd lle dim ond ad-daliadau rhannol a roddir (os yn berthnasol)
  • Llyfr gydag arwyddion amlwg o ddefnydd
  • Unrhyw eitem nad yw yn ei gyflwr gwreiddiol, sydd wedi'i ddifrodi neu wedi colli rhannau am resymau heblaw camgymeriad gan criw compostio
  • Unrhyw eitem a ddychwelir dros 30 diwrnod wedi iddo gael ei ddosbarthu.

 

Ad-daliadau (pan yn berthnasol)

Unwaith y bydd eich ffurflen ddychwelyd wedi'i derbyn a'i harchwilio, byddwn yn anfon e-bost atoch i'ch hysbysu ein bod wedi derbyn eich eitem a ddychwelwyd. Byddwn hefyd yn eich hysbysu a gymeradwywyd neu gwrthodwyd eich cais am ad-daliad.

Os cewch eich cymeradwyo, yna bydd eich ad-daliad yn cael ei brosesu, a bydd credyd yn cael ei roi'n awtomatig i'ch cerdyn credyd neu'ch dull talu gwreiddiol, o fewn nifer penodol o ddyddiau.

 

Ad-daliadau hwyr neu goll (os yn berthnasol)

Os nad ydych wedi derbyn ad-daliad eto, gofynnwn i chi wiriwch eich cyfrif banc unwaith eto yn gyntaf.

Yna cysylltwch â'ch cwmni cerdyn credyd, gan y gall gymryd peth amser cyn i'ch ad-daliad gael ei bostio'n swyddogol.

Nesaf cysylltwch â'ch banc. Yn aml mae peth amser prosesu cyn i ad-daliad gael ei bostio.

Os ydych chi wedi gwneud hyn i gyd a dal heb dderbyn eich ad-daliad, cysylltwch â ni trwy e-bostio helo@criwcompostio.co.uk

 

Eitemau pris gostyngol (os yn berthnasol)

Dim ond eitemau pris arferol y gellir cynnig ad-daliad ar eu cyfer, yn anffodus ni ellir ad-dalu eitemau pris gostyngol.

 

Cyfnewidiadau (pan yn berthnasol)

Dim ond eitemau sy'n ddiffygiol neu wedi'u difrodi y byddwn yn eu cyfnewid. Os oes angen gennych eitem sydd angen ei gyfnewid am eitem unfath, anfonwch e-bost atom yn helo@criwcompostio.co.uk

 

Anrhegion

Os cafodd yr eitem ei farcio fel anrheg pan gafodd ei archebu a'i anfon yn atoch yn uniongyrchol, byddwch yn derbyn credyd anrheg am werth yr eitem. Unwaith y bydd yr eitem a ddychwelwyd wedi'i dderbyn, bydd tystysgrif anrheg yn cael ei hanfon atoch yn y post.

Os nad oedd yr eitem wedi'i farcio fel anrheg pan gafodd ei brynu, neu os bod rhoddwr yr anrheg wedi anfon yr archeb atyn nhw eu hunain er mwyn ei rhoi i chi wedyn, byddwn yn anfon ad-daliad at roddwr yr anrheg.

 

Cludiant

I ddychwelyd eich cynnyrch, dylech anfon e-bost at helo@criwcompostio.co.uk

Byddwch yn gyfrifol am dalu eich costau cludo eich hun ar gyfer dychwelyd eich eitem. Ni ellir ad-dalu costau cludo. Os cewch ad-daliad, bydd cost cludo yn cael ei dynnu o'ch ad-daliad.

Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, gall yr amser y gall ei gymryd i'ch eitem cyfnewid eich cyrraedd amrywio.

Os ydych chi'n postio eitem gyda’i werth dros £75, dylech ystyried defnyddio gwasanaeth postio y gellir ei olrhain neu brynu yswiriant postio. Nid ydym yn gwarantu y byddwn yn derbyn eich eitem a ddychwelwyd.